Hafan > Amdanom

Amdanom

4 Nations: Nodau ac Amcanion

Ein nod yw nodi a blaenoriaethu'r bylchau a'r heriau ymchwil allweddol wrth ddatblygu epidemioleg ar sail dŵr gwastraff ar gyfer gwyliadwriaeth aml-bathogen. Gan adeiladu ar dros bum mlynedd o gydweithio llwyddiannus, mae ein tîm eisoes wedi cael effaith amlwg ar iechyd y cyhoedd a pholisi ledled y Deyrnas Unedig. 

Drwy weithdai, adolygiadau, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, rydym yn gwella galluoedd Epidemioleg ar sail Dŵr Gwastraff yn samplu, biowybodeg, integreiddio data, modelu risg, moeseg a chyfathrebu. Drwy wneud hynny, ein nod yw sefydlu arferion cenedlaethol safonol ar gyfer gwyliadwriaeth Epidemioleg ar sail Dŵr Gwastraff ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig, gan greu model y gellir ei fabwysiadu'n rhyngwladol. Rydym hefyd yn anelu at ehangu monitro i ffurfio sail i epidemioleg ar sail yr amgylchedd fel rhan o system wyliadwriaeth Iechyd Cyfunol sy'n cysylltu iechyd pobl, anifeiliaid a'r amgylchedd. 

Pam ymgymryd â’r dull hwn a beth yw’r manteision?  

Mae organebau pathogenau megis SARS-CoV-2 (COVID-19), norofirws, ac ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yn peri heriau difrifol a pharhaus i iechyd y cyhoedd. Mae'r pathogenau hyn yn gallu cael eu trosglwyddo trwy ddŵr a bwyd, yn aml trwy halogiad o garthion dynol. Mae norofirws yn unig yn achosi miliynau o afiechydon bob blwyddyn, gan arwain at gostau gofal iechyd sylweddol a cholli cynhyrchedd. Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn cynrychioli bygythiad hirdymor hyd yn oed yn fwy, gydag amcangyfrifon yn awgrymu effaith economaidd fyd-eang bosibl o hyd at £100 triliwn erbyn 2050. 

Mae Epidemioleg ar sail Dŵr Gwastraff ac ar sail yr Amgylchedd yn cynnig offer pwerus, cyflenwol i wynebu'r bygythiadau hyn. Drwy ganfod pathogenau lluosog mewn un sampl, mae Epidemioleg ar sail Dŵr Gwastraff yn ein galluogi i nodi achosion a phathogenau newydd sydd â photensial pandemig yn gynnar. Mae integreiddio arloesedd gwyddonol, moesegol a thechnolegol ar draws y pedair gwlad yn sicrhau gwyliadwriaeth gyson a safonol, yn atgyfnerthu parodrwydd ar gyfer epidemigau ac yn cefnogi dull gwydn Iechyd Cyfunol o ddiogelu iechyd y cyhoedd. 

Bydd cryfhau galluoedd Epidemioleg ar sail Dŵr Gwastraff yn gwella gwyliadwriaeth, parodrwydd ar gyfer pandemig, a’r gallu i ganfod pathogenau yn gynnar, sy’n ei wneud yn bosibl i wneud penderfyniadau amserol ar sail tystiolaeth. Mae'r manteision yn ymestyn ar draws meysydd iechyd, yr economi, cymdeithas, diogelwch a’r amgylchedd, gan gyfrannu at wytnwch cenedlaethol cryfach a diogelwch iechyd byd-eang. 

Our Partners